Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 6 Chwefror 2020

Amser: 09.00 - 12.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5959


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Huw Irranca-Davies AC

Mark Isherwood AC

Delyth Jewell AC

Caroline Jones AC

Tystion:

Eleri Butler MBE, Welsh Women’s Aid

Huw Rees, Rheolwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru

Philippa Dixon, Swyddfa Archwilio Cymru

Nick Selwyn, Swyddfa Archwilio Cymru

Staff y Pwyllgor:

Naomi Stocks (Clerc)

Chloe Davies (Dirprwy Glerc)

Hannah Johnson (Ymchwilydd)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

1       Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): y prif faterion

1.1 Trafododd y Pwyllgor ei faterion allweddol, a chytunodd arnynt.

2       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

3       Ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol - sesiwn dystiolaeth 1

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Eleri Butler, Prif Swyddog Gweithredol, Cymorth i Ferched Cymru

3.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth cytunodd Cymorth i Ferched Cymru i ddarparu:

·         Rhagor o fanylion am y ffyrdd a awgrymir y gellid addasu'r Ddeddf, ar ôl cyflwyno Bil Cam-drin Domestig y DU.

·         Gwybodaeth am ddulliau peilot diweddar sydd wedi canolbwyntio ar atal (er enghraifft Newid sy'n Para).

·         Ehangu ar sut y gallai Llywodraeth Cymru wella'r ddarpariaeth ar gyfer menywod nad oes ganddynt hawl i gael arian cyhoeddus.

·         Nodyn ar weledigaeth Cymorth i Ferched Cymru ar gyfer strwythur fframwaith canlyniadau.

·         Nodyn ar gyfleoedd i'r Ddeddf gyd-fynd â gwaith sy'n ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

·         Ehangu ar yr hyn y dylai Strategaeth Genedlaethol 2021 ei gynnwys, a'r hyn y gellir ei ddysgu o'r pum mlynedd diwethaf.

4       Ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol - sesiwn dystiolaeth 2

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Huw Rees, Cyfarwyddwr Archwilio, Swyddfa Archwilio Cymru

·         Philippa Dixon, Uwch Archwilydd, Swyddfa Archwilio Cymru

·         Nick Selwyn, Rheolwr Archwilio, Swyddfa Archwilio Cymru

4.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru i ddarparu:

·         Copi o'i hadroddiad ym mis Rhagfyr 2018 ynghylch defnyddio data.

·         Rhagor o wybodaeth am y rhaglen Teuluoedd Cydnerth yn Rhondda Cynon Taf.

5       Papur(au) i'w nodi

5.1   Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Cynghorwyr Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd a Thrais Rhywiol (mis Rhagfyr 2019)

5.1.a Nododd y Pwyllgor y diweddariad gan y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Rhagfyr 2019).

5.2   Cyflwyniad ysgrifenedig gan yr NSPCC Cymru mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

5.2a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan NSPCC Cymru mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

5.3   Cyflwyniad ysgrifenedig gan Fwrdd Partneriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

5.3.a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan Fwrdd Partneriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

5.4   Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd mewn perthynas â Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd mewn perthynas â Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

7       Ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol - trafod y dystiolaeth

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.